Diwrnod trist oedd hi ar 15/10/2023 pan ddaeth y newyddion sydyn am farwolaeth yr H. Fd Roger Thomas, PU-WBD (Crefft), PAGBD (Marc) yn 72 oed, oherwydd yr oedd yn aelod pybyr o’r ddwy Gyfrinfa Dewi Sant. Yr oedd yn fater o falchder mawr iddo mai ef oedd yr aelod derbyniedig cyntaf yng Nghyfrinfa Grefft a Marc Dewi Sant fel ei
gilydd.
Wedi’i eni ym Mhontrhydyfen, symudodd yn ei blentyndod i Borthcawl lle treuliodd rhan fwyaf ei fywyd tan iddo ymddeol a symud i Benybont-ar-Ogwr. Yr oedd balchder mawr ganddo yn ei wreiddiau ym Mhontrhydyfen ac roedd yn aml yn cael hwyl wrth ddweud, y dylai fe yn yr un modd â meibion enwog yr ardal fod wedi cael plac glas ar dŷ’r
teulu.
Treuliodd Roger ei fywyd ym myd addysg, gan orffen ei yrfa fel Prifathro Ysgol Gynradd Llanfair ym Mro Morgannwg. Yr oedd yn ŵr teyrngar i Meryl ac yn dad a thad-cu hynod o
falch.
Yr wyf yn cofio Roger fel cydweithiwr a chyfaill ac fe wnaeth ei ffraethineb sych a’i bersonoliaeth heintus godi aml i gyfarfod sych a syrffedus a fynychai. Roedd ganddo’r ddawn bob amser o ffocysu ar y pwysig a gwthio’r dibwys o’r neilltu, yn aml gyda gwên
ddrygionus.
Dioddefodd ei salwch â’r dewrder a’r gwydnwch a oedd yn gwbl nodweddiadol o’i gymeriad ac o blith ei gyfeillion niferus, bydd yn chwith iawn ar ei ôl..
Cysga’n dawel Frawd Roger Hedd Perffaith Hedd